Cyfleoedd

Reolwr/wraig Llwyfan Cwmni (ar y Llyfr)

Mae Theatrau Sir Gâr yn chwilio am reolwr/wraig llwyfan cwmni i ymuno â thîm BEAUTY AND THE BEAST, sy’n cael ei gynnal rhwng 14 a 28 Rhagfyr 2023 yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin.

Eleni bydd y pantomeim yn cael ei gynhyrchu’n fewnol yn Theatr y Lyric, mewn trefniant â chynhyrchwyr pantomeim profiadol, Imagine Theatre Ltd. Bydd y tîm cynhyrchu yn cynnwys cymysgedd o staff cynhyrchu/technegol mewnol a staff llawrydd.

Mae hwn yn gontract cyfnod penodol ar gyfer gwasanaethau, sy'n mynnu eich bod yn hunangyflogedig.

I wneud cais anfonwch CV a naill ai llythyr eglurhaol, fideo, neu ffeil sain yn mynegi eich diddordeb yn y gwaith at lyricpanto@gmail.com

Dyddiad Cau: Dydd Mercher, 25 Medi 2024 5pm

Ffi: Hyd at £675 y wythnos yn dibynnu ar brofiad + chostau cynhaliaeth os yw'n berthnasol

Ymrwymiad: Dydd Llun 25 Tachwedd – Dydd Llun 30 Rhagfyr 2024

Darllenwch y proffil swydd llawn yma

Clyweliadau'r Ensemble Iau – Beauty and the Beast

Yn galw ar bob perfformiwr ifanc!

Ydych chi'n dwlu ar ddawnsio? Ydych chi'n dwlu ar berfformio? Os felly, dewch i un o'n clyweliadau agored sy'n cael eu cynnal er mwyn dod o hyd i ddawnswyr ifanc ar gyfer ein pantomeim hudol, Beauty and the Beast, yn y Theatr y Lyric, Caerfyrddin.

Cynhelir y clyweliadau ddydd Sadwrn 5ed Hydref yn y Theatr y Lyric, Caerfyrddin.

Mae'r clyweliadau'n agored i bob plentyn 9 i 16 oed a fydd ym mlynyddoedd ysgol 4 i 11 yn ystod y cynhyrchiad.*

Mae'r clyweliadau'n dechrau am 12:30pm gyda chofrestru am 12pm.

*I gael rhagor o wybodaeth ar ddiwrnod y clyweliad, gofynion oedran a phresenoldeb a rheoliadau, yn ogystal â'r ffurflen gais y mae'n rhaid ei llenwi ymlaen llaw, gweler y canlynol os gwelwch yn dda:

Junior Ensemble Auditions.pdf

Junior Ensemble Form.pdf